» Amdanom Ni
Lleolir Ysgol Bro Preseli ym mhentref Crymych yng ngogledd Sir Benfro. Ystyrir y pentref yn ganolfan addysgol a diwylliannol ar gyfer y pentrefi cyfagos. Mae mynyddoedd y Preseli o gwmpas yn gyforiog o chwedlau ac mae’r ardal yn ymfalchïo yn ei thraddodiadau a’i diwylliant Cymreig. Mae’n gyfnod hynod gyffrous yn hanes Addysg Gymraeg yn Sir Benfro. Trwy uno Ysgol y Frenni ac Ysgol y Preseli, Ysgol Bro Preseli yw’r ysgol 3-19 oed Cyfrwng Cymraeg gyntaf oll yn y Sir.
Sefydlwyd Ysgol y Frenni yn 2006. Cyn hynny roedd ysgolion cynradd yng Nghrymych, Blaenffos a Hermon, ond unwyd yr ysgolion a ffurfiwyd Ysgol y Frenni. Sefydlwyd Ysgol y Preseli fel Ysgol Gyfun Ddwyieithog yn 1991 ac mae ei llwyddiant wedi gweld twf sylweddol yn niferoedd y disgyblion sy’n derbyn Addysg Gymraeg.
Mae’r ysgol yn hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg o’r radd flaenaf, safonau uchel a deilliannau rhagorol. Yn ogystal â safonau academaidd rhagorol mae’r ysgol hefyd yn cynnig ystod eang o weithgareddau allgyrsiol sy’n cynnwys perfformiadau theatrig, chwaraeon, cerddoriaeth, ymweliadau, clybiau a chymdeithasau.
Mae Ysgol Bro Preseli yn barod i ymateb a gweithredu ar flaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwella safonau ac ansawdd yr addysgu a’r dysgu. Mae’r ysgol yn ysgol arweiniol gyda’r Athrofa, Prifysgol y Drindod Dewi Sant ar gyfer addysg gychwynnol athrawon ac yn ysgol arloesol ar gyfer dysgu proffesiynol.
Fel ysgol gymunedol mae ein cyfleusterau yn cael eu defnyddio’n helaeth gan y gymuned yn ystod y dydd a chyda’r nos a gwna’r ysgol ddefnydd effeithiol o adnoddau’r gymuned fel cyfrwng i gyfoethogi addysg y disgyblion. Ar y campws, mae lloeren cyfrwng Cymraeg Ysgol Portfield wedi’i lleoli ynghyd â Chanolfan Iaith, Canolfan Ddysgu Gymunedol sy’n cynnwys Gwasanaeth Cymraeg i Oedolion, Theatr y Gromlech, llyfrgell gyhoeddus, pwll nofio, canolfan hamdden, cae pob tywydd, meithrinfa gofal plant dydd a chylch meithrin.
Mae gwerthoedd ac ethos Ysgol Bro Preseli yn seiliedig ar y canlynol:
I ddathlu ein hethos Cymreig ac i ymfalchïo yn ein amlieithrwydd.
Gan fod yr ysgol yn ysgol ddwyieithog swyddogol disgwylir i rieni/gwarcheidwaid a disgyblion fod yn frwd dros addysg cyfrwng Cymraeg. Disgwylir i ddisgyblion ddangos parch a balchder yn yr iaith Gymraeg trwy ei defnyddio’n gyson y tu fewn a thu allan i’r dosbarth. Ymdrechwn i ennyn balchder yn y disgyblion tuag at iaith, diwylliant, hanes ac etifeddiaeth Cymru.
Hyrwyddo ethos cadarnhaol ac awyrgylch cyfeillgar trwy ddatblygu’r gallu i ymddiried yn ein gilydd.
Cynhelir safonau uchel o ddisgyblaeth yn yr ysgol a adlewyrchir yn edrychiad ac ymddygiad y disgyblion. Credwn mai’r ffordd fwyaf effeithiol o gynnal disgyblaeth yw trwy feithrin hunanddisgyblaeth ac agwedd gyfrifol ymhlith y disgyblion.
Cymryd cyfrifoldeb am ein lles corfforol, emosiynol ac ysbrydol, addysg a diwylliant.
Gwnawn ein gorau i feithrin parch yn y disgyblion at bobl ac eiddo fel ein bod yn byw mewn cymdeithas wâr a goddefgar. Ceisiwn hefyd feithrin rhinweddau personol yn y disgyblion, rhinweddau megis cwrteisi, gonestrwydd, dyfalbarhad a chydwybodolrwydd ymhlith eraill. Pwysleisir pwysigrwydd darparu cyfleoedd cyfartal i bob plentyn waeth beth fo’i allu, rhyw, oedran neu gefndir ieithyddol.
Mae awyrgylch deuluol yn yr ysgol gyda chydweithio agos rhwng y staff, (athrawon, staff gweinyddol, staff y gegin) disgyblion a rhieni. Mae Cymdeithas Rhieni ragorol yn bodoli ac mae cefnogaeth dda iawn i unrhyw ddigwyddiad a gynhelir yn yr ysgol. Mae’r ysgol hefyd yn ysgol gymunedol. Mae’r gymuned yn defnyddio cyfleusterau’r ysgol yn helaeth gyda’r nos ac mewn modd cilyddol mae’r ysgol yn defnyddio’r gymuned fel adnodd i gyfoethogi addysg y disgyblion.
Yn athrawes yn Ysgol y Preseli ers 2006, mae Mrs Morris wedi bod yn Bennaeth Celf, yn Gydlynydd Bagloriaeth Cymru, yn Gydlynydd Gyrfaoedd, yn gydlynydd Datblygiad Proffesiynol, yn Uwch Arweinydd ac yn Bennaeth Cynorthwyol yn Ysgol y Preseli cyn cael ei phenodi’n Bennaeth Ysgol y Preseli a Phennaeth Ysgol Bro Preseli.
Mae Mrs Morgan Davies wedi dysgu yn Ysgol y Preseli ers 2007. Mae’n fathemategydd ac ystadegydd sydd wedi bod yn Bennaeth Cynnydd a Lles, yn Bennaeth Cynorthwyol, yn Ddirprwy Bennaeth ac yn Bennaeth Dros Dro. Mrs Morgan Davies sy’n gyfrifol am gynllunio’r cwricwlwm, amserlennu, asesu, casglu data a monitro.
Yn athrawes yn Ysgol y Preseli ers 2014. Mae Mrs Booth-Coates wedi bod yn athrawes Saesneg, yn Bennaeth Seicoleg, Cydlynydd Llythrennedd a Phennaeth Llesiant a Chynnydd cyn cael ei phenodi’n Bennaeth Cynorthwyol Ysgol Bro Preseli. Mrs Booth-Coates sy’n gyfrifol am anghenion dysgu ychwanegol, plant sy’n derbyn gofal a diogelu.
Mae Mr Owen Thomas wedi bod yn aelod o staff yn Ysgol Y Preseli ers 2013. Cyn ymuno â’r ysgol, bu’n bennaeth Saesneg yn Ysgol Ardudwy, Harlech ac mae hefyd wedi cynnal rhaglenni addysgol yn Zambia. Mae Mr Thomas wedi bod yn bennaeth cynnydd a lles Blwyddyn 11 am y 6 blynedd diwethaf ac wedi arwain ar brosiectau i sicrhau cynnydd academaidd ymhlith bechgyn a’r cynllun mentora ysgol. Ar hyn o bryd, Mr Thomas sy’n gyfrifol am gynnydd a lles yn ogystal â chyflwyno’r cwricwlwm ehangach.
Ymunodd Miss Williams ag Ysgol y Preseli fel Pennaeth Daearyddiaeth yn 2019. Mae hi wedi ymgymryd â nifer o rolau gwahanol yn ystod ei chyfnod yn yr ysgol gan gynnwys Pennaeth Cynnydd a Lles y Chweched Dosbarth, Pennaeth Adran, cydlynydd Maes Dysgu a Phrofiad a Phennaeth Cynorthwyol â chyfrifoldeb am addysgu a dysgu.
Darperir ystod o weithgareddau allgyrsiol i ddisgyblion Ysgol Bro Preseli. Mae’r rhain yn cynnwys:
Yn Ysgol Bro Preseli, rydym yn cefnogi amrywiaeth o chwaraeon gan gynnwys:
Rydym yn hoffi meithrin mynegiant mewn amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys:
Mae gan yr ysgol hefyd nifer o bwyllgorau sy’n cael eu rhedeg gan aelodau’r Chweched Dosbarth sy’n cynnwys:
Gellir dod o hyd i ddyddiadau tymhorau ysgol ar wefan Cyngor Sir Penfro:
09.01.23
31.03.23
03.04.23
18.04.23
30.05.23
21.07.23