Sixth Form Pupils

Disgyblion y Chweched Dosbarth

Mae Ysgol Bro Preseli yn ymfalchïo mewn darparu cyfle i fyfyrwyr barhau â’u haddysg ôl-16 mewn ysgol â safonau academaidd rhagorol mewn cymuned ddwyieithog, glos.

Ein Chweched Dosbarth

Ein Chweched Dosbarth

Mae Ysgol Bro Preseli yn croesawu myfyrwyr o’n carfan Blwyddyn 11 presennol ac unrhyw ddisgyblion eraill sydd â diddordeb y tu allan i’n cymuned ni i’r Chweched Dosbarth.

Mae prosbectws y Chweched Dosbarth yn amlinellu manylion pellach am y pynciau a gynigir a fideos pwnc-benodol yn amlinellu cynnwys y cwrs a’r gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr pe dymunant fynychu Chweched Dosbarth Ysgol Bro Preseli.

Dylai unrhyw fyfyrwyr nad ydynt yn bresennol yn Ysgol Bro Preseli gysylltu â’r ysgol os ydynt yn dymuno derbyn copi o’r prosbectws. Mae copi o brosbectws y Chweched Dosbarth hefyd i’w weld ar wefan yr ysgol.

Advantages of Staying on at School

Manteision aros ymlaen yn yr ysgol

Mae disgyblion chweched dosbarth sy’n astudio yn Ysgol Bro Preseli yn cael eu trin fel oedolion ifanc. Mae’r ysgol yn ymfalchïo yn llwyddiant academaidd ac allgyrsiol ein carfan chweched dosbarth. Mae’r nifer uchel o ddisgyblion sy’n dychwelyd i barhau â’u haddysg ôl-16 yn yr ysgol yn adlewyrchu safon yr addysgu a’r dysgu.

Trosolwg o'n Cwricwlwm

Overview Of Our Curriculum

Transitioning To The Next Stage

Pontio I'r Cam Nesaf

Yn ystod y ddwy flynedd yn y Chweched Dosbarth, trefnir rhaglen o addysg gyrfaoedd, cyngor a chwnsela ar gyfer pob disgybl. Mae’r Swyddog Gyrfaoedd yn bresennol yn ystod y ddau ddiwrnod anwytho. Bydd y Swyddog Gyrfaoedd hefyd yn cynnal cyfweliadau unigol ac yn cydweithio ag aelodau o staff yr ysgol i roi cyngor ar addysg uwch. Bydd y Swyddog Gyrfaoedd yn trefnu Gweithdai Addysg Uwch. Yn ogystal, mae pob disgybl ym mlwyddyn 12 yn derbyn y cyfle i ddilyn ‘Wythnos Gweithgareddau Addysg Uwch’. Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar baratoi ceisiadau a chael lleoliadau addas mewn sefydliadau addysg bellach ac uwch, cymryd Blwyddyn Allan, ysgoloriaethau, cyflogaeth ayb.

More Information

Mwy o wybodaeth

Cliciwch isod i ddod o hyd i ragor o wybodaeth.