» Ardal y Disgyblion » Disgyblion Cynradd
Mae ein harwyddair ‘Gwreiddiau a Gorwelion’ yn crynhoi ein nod o sicrhau bod pob disgybl yn cael ei baratoi ar gyfer bywyd o’r amser y mae’n meithrin ei wreiddiau academaidd a phersonol i’r amser y mae’n gadael yr ysgol ac yn anelu am ei orwelion personol ei hun. O’r eiliad y bydd plentyn yn cychwyn ar ei daith addysgol yn Ysgol Bro Preseli bydd yn cael ei feithrin, ei gefnogi a’i annog bob cam o’r ffordd.
Yn Ysgol Bro Preseli rydym yn darparu ar gyfer disgyblion o 3+ oed.
Gall disgyblion tair oed fynychu’n rhan amser yn ystod y trydydd tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed.
Gall disgyblion fynychu’n llawn amser y tymor yn dilyn eu pedwerydd penblwydd.
Addysgir disgyblion mewn amgylchedd dysgu lliwgar, bywiog a deniadol lle caiff pob plentyn bob cyfle i ffynnu.
Un o’n prif amcanion fel ysgol yw gwneud dysgu yn brofiad cyffrous a phleserus, yn bennaf trwy sicrhau ein bod yn defnyddio dulliau addysgu a dysgu sy’n ddiddorol ac yn cynnwys ein disgyblion yn weithredol.
Anogir disgyblion i fod yn hunan-ddisgybledig, yn benderfynol ac yn barod i ddweud ‘Ie!’ i’r profiadau dysgu gwych a gynigir bob dydd.
Mae disgyblion hefyd yn cael eu hannog i feddwl am yr hyn y maent yn ei ddysgu, gwrando ar syniadau a barn eraill, a bob amser chwilio am ffyrdd i wella a dysgu hyd yn oed yn fwy.
Mae Ysgol Bro Preseli yn ymfalchïo yn y gwaith rydym wedi’i gyflawni i ddatblygu chwe maes dysgu a phrofiad Cwricwlwm i Gymru. Yn seiliedig ar bedwar diben y cwricwlwm, bydd pob disgybl yn dilyn taith addysgiadol a fydd yn cyffroi, ysbrydoli a datblygu pob disgybl i fod y gorau y gall fod.
Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol yn cwmpasu pum
Er bod gan bob un o’r disgyblaethau hyn gorff o wybodaeth a chorff o sgiliau sy’n benodol i’r ddisgyblaeth honno, cydnabyddir eu bod yn rhannu’r broses greadigol gyda’i gilydd. Mae natur ymarferol y Celfyddydau Mynegiannol yn rhoi gofod corfforol ac emosiynol i ddysgwyr fynegi eu hunaniaeth eu hunain, parchu anghenion eraill, a chydnabod eu hawliau eu hunain. Gan ddechrau yn y dosbarth derbyn a meithrin, mae Ysgol Bro Preseli yn cynnig ystod o brofiadau creadigol a llawn mynegiant i’ch plentyn. Mae’r amgylchedd dysgu yn rhoi cyfleoedd di-ri i’ch plentyn fynegi ei hun trwy amrywiaeth o weithgareddau a thasgau, boed yn dasgau a gweithgareddau annibynnol neu ddychmygol.
Mae Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn darparu strwythur cyfannol ar gyfer deall iechyd a lles. Mae’n ymwneud â datblygu gallu dysgwyr i wynebu heriau a chyfleoedd bywyd. Mae iechyd a datblygiad y corff, iechyd meddwl, a lles emosiynol a chymdeithasol yn hanfodol i’r maes hwn. Bydd yn cefnogi dysgwyr i ddeall a gwerthfawrogi sut mae gwahanol elfennau iechyd a lles yn cydberthyn. Mae hefyd yn cydnabod bod iechyd a lles yn bwysig i alluogi dysgu llwyddiannus. Mae iechyd a lles yn rhan annatod o ethos Ysgol Bro Preseli ac yn gynnar yn y daith addysgol, bydd eich plentyn yn cael pob cyfle i fynegi teimladau, i gydymdeimlo ag eraill ac i ddatblygu’n gorfforol ac yn foesol mewn amgylchedd cartrefol Cymreig.
Mae’r Maes hwn yn cwmpasu
Mae’r disgyblaethau hyn yn rhannu llawer o themâu, cysyniadau a sgiliau trosglwyddadwy cyffredin, ond mae ganddynt hefyd eu corff penodol eu hunain o wybodaeth a sgiliau. Mae’r dyniaethau’n ganolog i ddysgwyr ddod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus o Gymru a’r byd. Heb os, mae’r ysgol yn ennyn balchder disgyblion o’u bro a thu hwnt gyda’r ysgol yn achub ar bob cyfle i gyflwyno’ch plentyn i’r hyn sy’n bwysig yn lleol ac yn fyd-eang. Mae cysylltiad yr ysgol â Lesotho yn rhoi cyfle gwych i’ch plentyn weld beth sydd gan y byd i’w gynnig iddynt o ran daearyddiaeth, hanes, crefydd, gwerthoedd a moeseg.
Nod y Maes Dysgu a Phrofiad hwn yw galluogi dysgwyr i gyfathrebu’n effeithiol gan ddefnyddio Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol. Ei nod yw annog dysgwyr i drosglwyddo’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu am sut mae ieithoedd yn gweithio mewn un iaith er mwyn dysgu a defnyddio ieithoedd eraill. Bwriad y dull amlieithog hwn yw tanio chwilfrydedd a brwdfrydedd dysgwyr a rhoi sylfaen gadarn iddynt ddatblygu diddordeb gydol oes yn ieithoedd Cymru a’r byd, a thrwy hynny eu gwneud yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, parod ar hyd eu hoes. Yr eiliad y bydd eich plentyn yn cychwyn ar ei daith addysgol yn Ysgol Bro Preseli bydd yn cael pob cyfle i ddatblygu ei sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Wrth iddynt ddatblygu a thyfu drwy’r camau cynnydd, bydd eich plentyn yn derbynl y cyfle i feistroli ieithoedd rhyngwladol gan gynnwys Ffrangeg a Sbaeneg, oll yn agor drysau a phosibiliadau wrth i’ch plentyn anelu at orwelion newydd.
Mae cymhwyso mathemateg yn gofyn am allu strategol wrth ddefnyddio syniadau haniaethol a modelu. Mae rhifedd, sef cymhwyso mathemateg i ddatrys problemau yn y byd go iawn, yn chwarae rhan allweddol yn ein bywydau beunyddiol, ac yng nghyflwr economaidd y genedl. Mae’n hanfodol felly bod profiadau mathemateg a rhifedd mor gyffrous, diddorol a hygyrch â phosibl i ddysgwyr, a bod y profiadau hyn yn helpu dysgwyr i ddatblygu gwydnwch mathemategol. Yn ystod y blynyddoedd cynnar, mae chwarae yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad mathemateg a rhifedd, gan alluogi dysgwyr i ddatrys problemau, archwilio syniadau, gwneud cysylltiadau a gweithio gydag eraill.
Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd gwyddoniaeth a thechnoleg yn ein byd modern. Mae datblygiadau yn y meysydd hyn bob amser wedi bod yn gyfrifol am arwain newid yn ein cymdeithas. Mae’r rhain yn sail i arloesi ac yn effeithio ar fywydau pawb, yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn amgylcheddol. Felly bydd Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn dod yn fwyfwy perthnasol yn y cyfleoedd y bydd ein hieuenctid yn eu profi, a’r dewisiadau y byddant yn eu gwneud mewn bywyd.
Mae’r gwerthoedd hyn yn sail i bopeth a wnawn ar draws pob oedran o fewn a thu hwnt i furiau’r ysgol.
Mae gennym ddyheadau uchel ar gyfer pob person ifanc ac rydym am iddynt gael eu herio a’u hysbrydoli i ffynnu ym mhopeth a wnânt.
Bydd ein gwerthoedd addysgol blynyddoedd cynnar yn ymgorffori ein gweledigaeth bod plant yn barod, yn barchus, yn ddiogel ac yn gyfrifol am fywyd.
Anelwn at gynnig yr un cyfle i bob plentyn ddatblygu hyd eithaf ei allu, fel unigolyn ac fel aelod o gymdeithas, a gwneud hynny mewn cymuned Gymreig gartrefol a chefnogol sydd â chenhadaeth i feithrin gwreiddiau ac ehangu, gorwelion.
Mae prosesau pontio yn hollbwysig wrth i ddisgyblion drosglwyddo i’r camau nesaf yn eu taith academaidd. Gwahoddir disgyblion i Ysgol Bro Preseli ar gyfer diwrnodau pontio, boed hynny wrth iddynt ddechrau yn dair neu bedair oed neu wrth iddynt drosglwyddo i’w haddysg uwchradd. Gwahoddir darpar ddisgyblion blwyddyn saith i dreulio wythnos yn Ysgol Bro Preseli yn ystod ail hanner tymor yr haf. Byddant hefyd yn cael eu gwahodd i ddiwrnod llawn hwyl yn ystod blwyddyn 5 lle cânt flas ar yr hyn sydd gan elfen uwchradd Ysgol Bro Preseli i’w gynnig. Wrth gwrs, bydd disgyblion sydd eisoes yn mynychu elfen gynradd Ysgol Bro Preseli yn gyfarwydd â’r campws, y cyfleusterau, yr ystafelloedd dysgu arbenigol a’r staff gan wneud y trawsnewid o’r cynradd i’r uwchradd yn un llyfn.
Cliciwch isod i ddod o hyd i ragor o wybodaeth.