Teachers Area

Ardal Athrawon

Ar y dudalen hon byddwch yn medru cael mynediad i wybodaeth allweddol gan gynnwys Hunan Arfarniad Ysgol Gyfan, Cynllun Gwella Ysgol a pholisïau sy’n berthnasol i athrawon a staff Ysgol Bro Preseli.

Gweithio yn Ysgol Bro Preseli

Gweithio yn Ysgol Bro Preseli

Y weledigaeth ar gyfer Ysgol Bro Preseli yw sicrhau bod rhanddeiliad sydd yn gysylltiedig â’r ysgol hon yn derbyn pob cyfle i ffynnu. Y nod yw darparu cyfleoedd i bawb gyfrannu tuag at y broses o greu ysgol sydd yn sefydliad sydd yn dysgu. Byddwn yn ffocysu ar arloesedd, rhagoriaeth a lles ym mhob agwedd o’n gwaith dyddiol boed wrth gefnogi ein disgyblion yn academaidd, yn emosiynol, yn feddyliol, yn gorfforol ac yn foesol. Bydd yr ysgol yn gynhwysol a bydd ein hethos yn seiliedig ar werthoedd cytunedig. Bydd yr ysgol yng nghalon y gymuned ac yn rhan o rwydweithiau ehangach.

Working at Ysgol Bro Preseli

Gweithio yn Ysgol Bro Preseli

Y nod yw mynd i’r afael ag egwyddorion Cwricwlwm i Gymru yn llwyddiannus a chaniatáu i bob plentyn gyrraedd ei wir botensial yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn bersonol mewn cymuned gartrefol Gymreig. Er mwyn gwireddu amcanion yr ysgol bydd angen ymrwymiad llwyr i sicrhau bod addysgeg a dysgu ac addysgu o fewn yr ysgol yn helpu disgyblion i gwrdd â gofynion y 4 Diben. Bydd disgyblion yr ysgol yn meddu ar sgiliau digidol, rhifedd a llythrennedd uchel. Bydd athrawon yn defnyddio hunan asesiad blynyddol o’r Safonau Proffesiynol ar Gyfer Athrawon a’r Safonau Arweinyddiaeth fel sail i ddatblygu eu hymarfer a’u harweinyddiaeth.

Mae’r strwythur staffio yn gosod y seiliau sydd eu hangen er mwyn creu continwwm addysgeg a lles effeithiol a hylaw a fydd yn caniatáu’r ysgol pob oed yma weithredu’n llwyddiannus yn y byr dymor, tymor canolig a’r hir dymor wrth i ni drosglwyddo a thrawsffurfio o’r cwricwlwm cyfredol i Gwricwlwm i Gymru a chymwysterau Gwneud i Gymru.

Access Teacher's Area

Man Athrawon Mynediad

Does dim lleoedd gwag yn Ysgol Bro Preseli ar hyn o bryd, gwiriwch yn ôl yn rheolaidd am ddiweddariadau.

Man Athrawon Mynediad

Eisoes yn dysgu yn Ysgol Bro Preseli? Cyrchwch yr Ardal Breifat Athrawon yma i weld y dogfennau gofynnol. Bydd angen cyfrinair.