» Ethos Ysgol Bro Preseli
Cynhelir safonau uchel o ddisgyblaeth yn yr ysgol ar sail gwerthoedd cytûn. Credwn fod gan ddisgyblion ymdeimlad o hunanddisgyblaeth ac agwedd gyfrifol.
Gan fod yr ysgol yn ysgol swyddogol ddwyieithog disgwylir i rieni a disgyblion fod yn frwd dros addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Disgwyliwn i’r disgyblion ddangos parch a balchder yn yr iaith Gymraeg drwy ddefnyddio’r iaith yn reolaidd tu mewn a thu allan i’r dosbarth.
Ceisiwn ennyn balchder yn y disgyblion tuag at iaith, diwylliant, hanes a threftadaeth Cymru.
Rydym yn gwneud ein gorau i feithrin ymdeimlad o barch yn y disgyblion at bobl ac at eiddo pobl fel bod gennym gymdeithas wâr a goddefgar.
Ceisiwn hefyd feithrin rhinweddau personol yn y disgyblion megis cwrteisi, gonestrwydd, dyfalbarhad, ymdeimlad o gydwybod.
Pwysleisir y pwysigrwydd o ddarparu cyfleoedd cyfartal i bob plentyn beth bynnag ei allu, ei ryw, ei oedran neu ei gefndir ieithyddol.
Cynhelir safonau disgyblaeth uchel yn yr ysgol ac adlewyrchir hyn yn ymddangosiad ac ymddygiad disgyblion. Credwn mai’r ffordd fwyaf effeithiol o ddisgyblu yw drwy feithrin hunan ddisgyblaeth ac agwedd gyfrifol ymhlith y disgyblion.
Mae awyrgylch deuluol yn perthyn i’r ysgol gyda chydweithrediad a chyd-dynnu agos rhwng y staff (yn athrawon, staff gweinyddol, staff y gegin), y disgyblion a’r rhieni. Mae Cymdeithas Rieni gref yn bodoli ac mae cefnogaeth arbennig o dda i unrhyw weithgareddau a drefnir.
Mae’r ysgol yn ysgol gymunedol, gyda’r gymuned yn gwneud defnydd helaeth o’r ysgol yn yr hwyr a’r ysgol yn defnyddio’r gymuned fel ffynhonnell i gyfoethogi addysg y plant.
Nod yr ysgol yw gwneud ein gorau glas i sicrhau bod pob plentyn yn cyrraedd ei wir botensial – yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn nhermau datblygiad personol – mewn cymuned ddwyieithog.