Information Area

Gwybodaeth

Bydd y dudalen hon yn rhoi rhywfaint o wybodaeth berthnasol i chi am Ysgol Bro Preseli a’r addysg a ddarparwn. Efallai y bydd gennych gwestiynau neu ymholiadau ychwanegol nad ydynt yn cael sylw ar y dudalen hon. Os felly, mae croeso i chi gysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol lle byddwn yn ymdrechu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Sut I Gyrraedd Ysgol Bro Preseli

Sut I Gyrraedd Ysgol Bro Preseli

Wedi’i lleoli ym mhentref gwledig Crymych, Sir Benfro, mae Ysgol Bro Preseli wedi dod yn ganolbwynt i’r gymuned glos hon. Mae Ysgol Bro Preseli yn ysgol gymunedol sy’n ymdrechu i wasanaethu’r gymuned leol ac ehangach. Wrth deithio ar hyd yr A478, mae’r ysgol tua 8.8 milltir o dref Aberteifi lle mae’r ysgol ar y chwith. O Arberth byddech yn teithio am tua 13.8 milltir, gan ddilyn yr A478 i mewn i Grymych lle lleolir yr ysgol ar y dde. Os ydych yn teithio o Hwlffordd byddech yn teithio ar hyd yr A40 cyn dilyn yr A478 tuag at bentref Crymych. Mae Hwlffordd tua 23.7 milltir o Grymych.

Yn 4 oed mae eich plentyn yn gymwys i fynychu ysgol gynradd yn llawn amser. Nid oes yn rhaid i chi anfon eich plant i’r ysgol nes eu bod yn 5 oed ond mae llawer o rieni’n gweld y dechrau cynnar hwn yn fuddiol. Yn Ysgol Bro Preseli rydym yn darparu ar gyfer disgyblion o 3+ oed. Gall disgyblion tair oed fynychu’n rhan amser yn ystod y trydydd tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed. Gall disgyblion fynychu’n llawn amser y tymor yn dilyn eu pedwerydd penblwydd. Bydd disgyblion oed ysgol uwchradd yn cychwyn ar ddechrau’r flwyddyn academaidd yn dilyn eu pen-blwydd yn 11 oed.

Cyhoeddir dalgylch pob ysgol ar wefan y Cyngor. Mae dalgylch elfen gynradd Ysgol Bro Preseli wedi’i amlinellu’n glir ar y map hwn.

Mae dalgylch elfen uwchradd Ysgol Bro Preseli yn wahanol i ddalgylch yr elfen gynradd. Mae’r dalgylch eilaidd wedi’i liwio mewn glas/gwyrddlas ar y map hwn.

Mae plentyn o oedran ysgol gorfodol sy’n derbyn addysg gynradd yn Ysgol Bro Preseli ac sy’n byw dwy filltir neu fwy o’r ysgol addas agosaf yn gymwys i gael cludiant am ddim i’r ysgol. Mae plentyn o oedran ysgol gorfodol sy’n derbyn addysg uwchradd yn Ysgol Bro Preseli ac sy’n byw tair milltir neu fwy o’r ysgol addas agosaf yn gymwys i gael cludiant am ddim i’r ysgol.

I ddarganfod a yw eich plentyn yn gymwys ar gyfer cludiant ysgol i Ysgol Bro Preseli, cliciwch ar y ddolen isod a rhowch eich cod post cartref.

Cymhwysedd Cludiant Ysgol – Cyngor Sir Penfro

Mae Ysgol Bro Preseli ar hyn o bryd yn ysgol Ddwyieithog Categori 2A. Y disgrifiad o ysgol categori 2A yw ‘Mae o leiaf 80% o’r pynciau ar wahân i’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig i bob disgybl’. Cynigir pob pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg ond bydd disgyblion yn cael dewis astudio Gwyddoniaeth yn y Gymraeg neu’r Saesneg pan fyddant o oedran ysgol uwchradd. Byddwn yn trafod yn ofalus gyda chi pa ffrwd fydf fwyaf addas ar gyfer eich plentyn.

Cyn i chi gyflwyno cais mae croeso i chi gysylltu â’r ysgol a siarad ag aelod o staff. Dyma ffordd wych o wybod a ydych chi’n gwneud y dewis cywir i chi a’ch plentyn.

Cofiwch, hyd yn oed os ydych wedi siarad â’r ysgol a’n bod wedi dweud bod lleoedd ar gael, hyd nes y byddwch wedi gwneud cais a derbyn cadarnhad gan Dderbyniadau Ysgol Cyngor Sir Penfro bod eich plentyn wedi’i dderbyn ni allant ddechrau’r ysgol.

Gallwch wneud cais ar ran eich plentyn drwy wefan Cyngor Sir Penfro