Croeso

Ysgol Bro Preseli

Neges o’r Pennaeth

Ysgol Bro Preseli

Neges o’r Pennaeth

Mae ein hysgol yn darparu amgylchedd dysgu ysgogol sy’n ddiogel, yn ysbrydoledig ac yn gynhwysol. Bydd disgyblion yn llwyddo i fod yn llythrennog ac yn rhifog, tra hefyd yn datblygu cariad at ddysgu drwy chwilfrydedd a her. Rydym yn meithrin pob plentyn i ddod yn unigolyn annibynnol, gwydn a chyfrifol, ystyriol a gofalgar. Ein bwriad yw cyflwyno ystod eang o weithgareddau addysgol cytbwys i bob plentyn i’w galluogi i ddatblygu’n ddysgwyr uchelgeisiol a galluog.

Un o gryfderau mwyaf ein hysgol yw ei hethos Gymraeg, a’i chymuned ofalgar, agored a hapus lle y mae disgyblion yn teimlo’n gartrefol ac yn mwynhau eu haddysg. Ein prif nod fel ysgol yw gwneud dysgu yn brofiad cyffrous a phleserus a hynny yn bennaf trwy ddefnyddio dulliau dysgu ac addysgu diddorol a gweithredol yn ein gwersi.

Mae pob disgybl yn bwysig fel unigolyn, a phob unigolyn yn bwysig fel aelod o ‘deulu’ Ysgol Bro Preseli. Yr egwyddor hon o barchu’r unigolyn a gosod anghenion yr unigolyn yn y canol sydd wrth wraidd ethos, gwerthoedd a llwyddiant yr ysgol.

Nod yr ysgol yw cynnig yr un cyfle i bob plentyn ddatblygu hyd eithaf ei allu, fel unigolyn ac fel aelod o gymdeithas, ac i wneud hynny mewn cymuned Gymreig gartrefol a chefnogol sydd â’i bryd ar fagu gwreiddiau ac ehangu gorwelion.

– Mrs Rhonwen Morris,
Pennaeth Ysgol Bro Preseli

Upcoming Events

Digwyddiadau

Mae Ysgol Bro Preseli yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau, a gynhelir trwy gydol y flwyddyn academaidd. Ymfalchïwn yn y cyfleoedd a ddarparwn y tu fewn a thu allan i’r dosbarth. Gweler isod y digwyddiadau sydd i ddod neu cliciwch ar ein calendr isod.

There are currently no blog posts. Please check back again later.

Our Key Values

Ein Gwerthoedd

Cynhelir safonau disgyblaeth uchel yn yr ysgol sy’n seiliedig ar werthoedd cytûn. Adlewyrchir hyn yn ymddangosiad ac ymddygiad disgyblion. Credwn mai’r ffordd fwyaf effeithiol o ddisgyblu yw drwy feithrin hunan ddisgyblaeth ac agwedd gyfrifol ymhlith y disgyblion. Ein gwerthoedd allweddol yw:

Teaching and Learning

Dysgu ac addysgu

Mae’r ysgol yn sicrhau bod y cwricwlwm yn bodloni gofynion Cwricwlwm i Gymru a nodau ac amcanion y cyrff dyfarnu arholiadau. Mae hefyd wedi’i deilwra i gwrdd â gofynion pob disgybl. Mae’n adlewyrchu cymeriad, amgylchiadau ac ethos unigryw’r ysgol a’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.

3 – 11 mlwydd oed.

Camau Cynnydd 1, 2 a 3

3 – 11 mlwydd oed.

Camau Cynnydd 1, 2 a 3

Enw’r cwrs a ddilynir gan eich plentyn yn yr ysgol yw’r Cwricwlwm. Mae’r cwricwlwm a gyflwynir yn Ysgol Bro Preseli yn eang, yn gytbwys, yn berthnasol ac yn wahaniaethol. Mae cwricwlwm eang yn rhoi ystod eang o brofiadau, gwybodaeth a sgiliau i’r disgybl wrth iddynt gychwyn ar eu taith academaidd, bersonol, moesol ac ysbrydol. Cyflwynir y cwricwlwm mewn amgylchedd dysgu pwrpasol ac ysbrydoledig.

11 – 16 mlwydd oed.

Camau Cynnydd 4 a 5

11 – 16 mlwydd oed.

Camau Cynnydd 4 a 5

Mae Ysgol Bro Preseli neilltuo amser digonol i bob rhan o’r cwricwlwm er mwyn sicrhau cydbwysedd. Mae’r deunydd yn berthnasol ym mhob rhan o’r cwricwlwm uwchradd. Mae’n cael ei ddysgu yn y fath fodd fel ei bod yn cysylltu â phrofiadau’r disgyblion ac yn hybu eu datblygiad yn ogystal â’u paratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn ifanc. Mae’r cwricwlwm yn wahaniaethol ac yn darparu ar gyfer anghenion arbennig disgyblion mewn ffyrdd sy’n peri bod y cwricwlwm ar gael i bob disgybl. Mae dilyniant yn y rhaglenni astudio a gyflwynir i’r disgyblion yn hollbwysig. Mae’r Cwricwlwm yn cwmpasu nifer o bynciau ynghyd â materion trawsgwricwlaidd. Wrth gamu mewn i gam gynnydd 5 a’u hastudiaethau TGAU rhennir y pynciau yn Bynciau Craidd a Phynciau Dewis.

16 – 18 mlwydd oed.

Addysg ôl-16

16 – 18 mlwydd oed.

Addysg ôl-16

Mae Ysgol Bro Preseli yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn cynnig cyfle i fyfyrwyr barhau gyda’u haddysg ôl-16 mewn ysgol lle y gwelir safonau academaidd rhagorol, ac mewn cymuned glos a dwyieithog ac amlieithog. Mae Ysgol Bro Preseli yn croesawu myfyrwyr o’n carfan gyfredol o ddisgyblion sydd ym Mlwyddyn 11, ynghyd ag unrhyw ddisgyblion eraill o’r tu allan i’n cymuned ni ac y mae ganddynt ddiddordeb, i’r Chweched Dosbarth.

Mae prosbectws y Chweched Dosbarth yn amlinellu manylion am y pynciau a gynigir ymhellach, ynghyd â fideos sy’n amlinellu cynnwys y cyrsiau a’r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr os byddant yn dymuno mynychu’r Chweched Dosbarth yn Ysgol Bro Preseli. Dylai unrhyw fyfyrwyr nad ydynt yn Ysgol Bro Preseli ar hyn o bryd gysylltu â’r ysgol os hoffent gael copi o’r prosbectws. Mae copi digidol o’r prosbectws ar gael ar y wefan hon.

Get in touch

Cysylltwch

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech drafod unrhyw fater gydag aelod o staff, mae croeso i chi gysylltu â’r ysgol drwy ddefnyddio’r dulliau cyswllt canlynol.

Ffoniwch y Swyddfa

01239 831000