» Hysbysiad Preifatrwydd
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol:
Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn darparu gwybodaeth ynglŷn â’r ffordd y mae Ysgol Bro Preseli yn casglu ac yn prosesu eich gwybodaeth bersonol.
Ysgol Bro Preseli yw’r Rheolydd Data ar gyfer defnyddio data personol yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn. Ein cyfeiriad a’n manylion cyswllt yw:
Ysgol: Ysgol Bro Preseli
Cyfeiriad: Heol Hermon, Crymych, SA41 3QH
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01239 831000
E-bost: swyddfa@ysgolbropreseli.cymru Mae ein hysgol yn casglu gwybodaeth am ddisgyblion a’u rhieni neu warcheidwaid cyfreithiol pan fyddant yn cofrestru â’r ysgol. Bydd ein hysgol hefyd yn casglu gwybodaeth ar adegau pwysig eraill yn ystod y flwyddyn ysgol yn ôl y gofyn neu pan fydd angen gwneud hynny.
Pan fydd disgybl yn ymuno â’n hysgol o ysgol arall, caiff ei wybodaeth bersonol ei hanfon atom. Os bydd disgybl yn gadael ein hysgol neu’n symud i ysgol uwchradd arall, byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth bersonol y disgybl a gwybodaeth am unrhyw rieni neu warcheidwaid cyfreithiol i’r ysgol newydd.
Caiff unrhyw wybodaeth bersonol neu sensitif y byddwch yn ei rhannu â ni yn cael ei defnyddio i ddarparu gwasanaethau addysg i’ch plentyn ac ar gyfer unrhyw ddyletswyddau statudol y mae angen i’r ysgol eu cyflawni.
At ddibenion Diogelu Data, mae angen prosesu eich data personol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd, wrth arfer yr awdurdod swyddogol a roddir i’n hysgol, buddiannau hollbwysig eich plentyn neu drydydd parti mewn sefyllfaoedd brys, yn ogystal â chael caniatâd plentyn neu riant i ddefnyddio ffotograffau neu ddelweddau ar y cyfryngau cymdeithasol neu ar ein prosbectws. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion isod.
Mae categorïau gwybodaeth y disgybl rydym yn eu prosesu yn cynnwys dynodwyr personol megis enw, rhif unigryw y disgybl, manylion cyswllt a chyfeiriad yn ogystal â’r canlynol:
Mae’r data personol a gasglwyd yn hollbwysig i’r ysgol gyflawni ei swyddogaethau swyddogol a bodloni gofynion cyfreithiol.
Rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth y disgybl at y dibenion canlynol:
O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, rydym yn dibynnu ar y seiliau cyfreithlon canlynol o dan Erthygl 6 er mwyn prosesu gwybodaeth y disgybl:
Yn ogystal â’r uchod, rhaid bod gennym sail gyfreithlon ychwanegol os byddwn yn prosesu unrhyw ddata categori arbennig.
Mae rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif nag eraill, ac mae angen eu diogelu’n well. Caiff y rhain eu categoreiddio fel ‘data categori arbennig’ a gallant gynnwys gwybodaeth am eich tarddiad hiliol neu ethnig, safbwyntiau gwleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol a phrosesu data genetig neu fiometrig yn ogystal ag iechyd, cyfeiriadedd rhywiol a materion perthnasol.
O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, rydym yn dibynnu ar y seiliau cyfreithlon canlynol o dan Erthygl 9 er mwyn prosesu gwybodaeth y disgybl:
Rydym yn casglu gwybodaeth y disgybl a gwybodaeth bersonol ar ffurf:
Mae data’r disgybl yn hollbwysig ar gyfer defnydd gweithredol yr ysgol. Er bod y rhan fwyaf o’r wybodaeth am y disgybl a’r wybodaeth bersonol rydych yn ei darparu i ni’n orfodol, gofynnir am rywfaint ohoni ar sail wirfoddol. Er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelu data, byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fyddwn yn casglu’r wybodaeth, a oes angen i chi ddarparu gwybodaeth bersonol benodol i ni neu a oes gennych ddewis yn hyn o beth, a bydd angen eich caniatâd arnom.
Rydym yn cadw data’r disgybl yn ddiogel ar gyfer y cyfnod penodol o amser a nodir ar ein hamserlen cadw data. I gael rhagor o wybodaeth am ein hamserlen cadw data a sut rydym yn cadw eich data’n ddiogel, cyfeiriwch at y canlynol:
Cofnodion Addysgol, Adroddiadau Ysgol a’r System Drosglwyddo Gyffredin – cadw, gwaredu, datgelu a throsglwyddo gwybodaeth am ddisgyblion. Cylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru Rhif: 18/2006 (https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-03/cofnodion-addysgol-adroddiadau-ysgol-ar-system-drosglwyddo-gyffredin-cadw-gwaredu-datgelu-a-throsglwyddo-gwybodaeth-am-ddisgyblion.pdf)
Mae’r ysgol yn storio ei data’n ddiogel ac yn cydymffurfio â’r egwyddorion a nodir yn y polisïau canlynol:
Gall yr ysgol ddarparu mwy o wybodaeth.
Rydym yn rhannu gwybodaeth y disgybl a gwybodaeth bersonol yn rheolaidd â’r canlynol:
Efallai y bydd angen i ni rannu gwybodaeth bersonol eich plentyn â’r Awdurdod Lleol yn ogystal â gwasanaethau eraill (e.e. darparwr hyfforddiant) fel rhan o Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid Llywodraeth Cymru (https://llyw.cymru/fframwaith-ymgysylltu-datblygu-ieuenctid-cynllun-gweithredu), sef proses a ddyluniwyd i gefnogi dysgu eich plentyn a’i helpu i symud ymlaen i addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant. Dim ond y wybodaeth ofynnol y byddwn yn ei rhannu â’r sawl y mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i’w rhannu â nhw.
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau i bobl ifanc, ewch i wefan ein hawdurdod lleol yn www.pembrokeshire.gov.uk
Mae Llywodraeth Cymru yn casglu data personol oddi wrth leoliadau addysgol ac awdurdodau lleol mewn amrywiaeth o ddulliau casglu data statudol. Mae gan yr Ysgol ddyletswydd gyfreithiol i rannu gwybodaeth benodol am ddisgyblion â Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC). Rydym yn rhannu’r data hyn yn gyfreithlon o dan Adrannau 29, 537A a 538 o’r Ddeddf Addysg (1996). Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: https://llyw.cymru/cyfrifiad-ysgolion-blynyddol-ar-lefel-disgyblion-cybld
Caiff yr holl ddata eu trosglwyddo’n ddiogel a’u cadw gan Lywodraeth Cymru mewn cyfuniad o reolaethau meddalwedd a chaledwedd, sy’n cydymffurfio â fframwaith polisi diogelwch cyfredol y llywodraeth.
O dan deddfwriaeth diogelu data, mae gan rieni a disgyblion hawl i wneud cais i gael gafael ar y wybodaeth sydd gennym amdanynt. I wneud cais am eich gwybodaeth bersonol, neu i gael gafael ar gofnod addysgol eich plentyn, cysylltwch â:
Mrs. Rhonwen Morris (Pennaeth Ysgol)
neu
Mr. Jonathan Lewis (Swyddog Diogelu Data)
Mae’r hawl gennych i’r canlynol hefyd:
Mae Ysgol Bro Preseli yn ymdrechu i gyrraedd y safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion a gawn am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pawb i gysylltu â ni os ydynt yn credu bod y ffordd rydym yn casglu neu’n defnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu’n amhriodol.
Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr am bob agwedd ar ein proses o gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn fwy na pharod i ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol neu esboniad yn ôl yr angen.
Dylai unrhyw geisiadau o’r fath gael eu hanfon i’r cyfeiriad isod:
Jo Hendy Swyddog Diogelu Data Cyngor Sir Penfro Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP
E-bostiwch: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Os hoffech wneud cwyn am y ffordd rydym wedi defnyddio a phrosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd
Gwybodaeth fel y corff statudol sy’n goruchwylio cyfraith diogelu data yn:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth Wycliffe House Water Lane Wilmslow SK9 5AF
E-bostiwch: casework@ico.org.uk
Rhif Ffôn: 0303 123 1113 Byddwn yn parhau i adolygu’r hysbysiad preifatrwydd hwn.