Parents Area

Ardal Rhieni

Cyflwyniad

Cyflwyniad

Croeso i’r ardal rhieni / gwarcheidwaid lle gallwch ddod o hyd i wybodaeth berthnasol am wisg ysgol, presenoldeb, opsiynau a gwybodaeth arall y gofynnir amdani gan rieni a gwarcheidwaid disgyblion sy’n mynychu Ysgol Bro Preseli.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach mae croeso i chi gysylltu â’r ysgol a siarad ag aelod o staff a fydd yn medru darparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

What To Expect On The First Day

beth i'w ddisgwyl ar ddiwrnod cyntaf cyflwyniad eu plentyn i'r ysgol

Mae dechrau yn yr ysgol yn amser cyffrous i ddisgyblion boed hyn ar eu diwrnod cyntaf yn y cynradd neu wrth iddynt drosglwyddo i’w haddysg uwchradd.

Mae’r broses bontio yn hollbwysig, felly mae ein staff yn cymryd yr amser i sicrhau bod eich plentyn yn teimlo’n hyderus pan fyddant yn dechrau yn Ysgol Bro Preseli.

Trefniadau ar gyfer cwrdd â rhieni a gwarcheidwaid disgyblion a fydd yn dechrau yn yr ysgol yn flynyddol.

Healthy Eating At Ysgol Bro Preseli

Bwyta'n Iach Yn Ysgol Bro Preseli

Mae’r Wobr Ysgolion Iach a gyflawnwyd eisoes yn ymrwymiad gan staff a disgyblion i hybu iechyd da, ymddygiad cadarnhaol a chyflawniad ar draws pob maes o fywyd yr ysgol. Mae dŵr yfed ffres ar gael bob amser yn ystod y dydd ac mae’r ddau ffreutur yn cynnig byrbrydau iach yn ystod amser egwyl ac amser cinio.

Mae brecwast ar gael yn gynnar yn y bore sy’n cynnwys grawnfwydydd iach, uwd, ffrwythau tost a byrbrydau. Mae clwb brecwast ar gael i ddisgyblion oed cynradd o 8.00yb. Cynigir dŵr, llaeth a diodydd calorïau isel i’r disgyblion. Anogir unigolion sy’n dod â phecyn bwyd i’r ysgol i fwyta’n iach. Mae materion yn ymwneud â darparu bwyd yn cael eu trafod gan Senedd yr Ysgol. Mae ardal fwyta awyr agored o’r enw ‘Y Pantri’ yn cynnig opsiwn arall i ddisgyblion oed ysgol uwchradd amser egwyl ac amser cinio.

Mae Ysgol Bro Preseli yn gweithredu system arlwyo heb arian ar gyfer talu am brydau ysgol. Mae’r System Arlwyo Heb Arian ar gael ym mhob ysgol. Gallwch ddewis cael cinio ysgol bob dydd neu dim ond ar ddiwrnodau arbennig.Yn elfen gynradd Ysgol Bro Preseli gofynnir i’ch plentyn yn y bore os yw’n cael pryd ysgol neu frechdanau.

Yn elfen uwchradd Ysgol Bro Preseli, mae’r system arlwyo heb arian yn galluogi disgyblion i dalu am brydau ysgol heb fod angen cario arian parod. Yn lle hynny, mae disgyblion yn gallu talu am eu prydau gan ddefnyddio eu bys neu gerdyn arlwyo heb arian. Mae terfyn gwariant dyddiol wedi’i osod yn awtomatig ar gyfrif pob disgybl o £6 y dydd. Os hoffech i hyn ostwng neu gynyddu, cysylltwch â’r gwasanaeth arlwyo.

Llais Rhiant a Gwarcheidwad

Rydym yn awyddus i wrando ar lais rhieni/gwarcheidwaid ar ein taith i ragoriaeth. Mae’n galonogol derbyn canmoliaeth gan rieni a gwarcheidwaid am yr hyn rydym yn ei wneud yn dda a derbyn syniadau ac awgrymiadau ar feysydd y gallem eu gwella ymhellach.

Os oes gennych unrhyw sylwadau, mae croeso cynnes i chi anfon e-bost at y Tîm Arwain.

School Uniform

Gwisg Ysgol

Dewch o hyd i wybodaeth fanwl am y wisg ysgol. Gellir prynu gwisg ysgol trwy’r stocwyr canlynol:

Additional Learning Needs

Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn hygyrch i bob disgybl, mae’r ysgol yn darparu ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol trwy gefnogaeth dosbarth a/neu neilltuo ar gyfer grwpiau bach ar gyfer hyfforddiant unigol. Nod yr ysgol yw cynnig addysg o safon uchel a chyfle cyfartal i bawb.

Mae’r adran yn gyfrifol o dan gyfarwyddyd y Cydlynydd Anghenion Ychwanegol,
am sicrhau bod y Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig yn cael ei gweithredu. Gellir cael copi o lyfryn Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol o swyddfa’r ysgol.

Mae disgyblion yn cael eu hadnabod cyn cychwyn yn yr ysgol gan wybodaeth fanwl gan rieni / gwarcheidwaid ac yn achos disgyblion sy’n trosglwyddo, o’r ysgol flaenorol. Mae’r ysgol yn cyfathrebu gyda Phenaethiaid Cynradd a rhieni/gwarcheidwaid, a thrwy’r Athrawon Pontio Cynradd/Uwchradd.

Ym mis Medi mae pob disgybl ym Mlwyddyn 7 yn sefyll cyfres o brofion sgrinio cyffredinol sy’n nodi eu lefelau llythrennedd a rhifedd. Mae gan yr ysgol ystafell ag adnoddau da ar gyfer addysgu grwpiau bach ac ar gyfer cymorth disgyblion unigol. Adnabyddir y plentyn eithriadol o alluog yn yr un broses. Mae yna berthynas waith ardderchog gydag asiantaethau allanol megis y Seicolegydd Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol ayb.

More Information

Mwy o wybodaeth

Cliciwch isod i ddod o hyd i ragor o wybodaeth.