Attendance

Presenoldeb

Ystyrir bod presenoldeb rheolaidd yn bwysig iawn yn Ysgol Bro Preseli.

Hebddo, ofer byddai ein holl ymdrechion i ddarparu addysg o safon uchel; os nad yw disgybl yn bresennol yn yr ysgol ni all ddysgu na chyrraedd ei wir botensial. Am y rhesymau yma, rydym yn annog rhieni i beidio â threfnu gwyliau yn ystod tymor yr ysgol.

Ein nod yw cael y graddau presenoldeb uchaf posib ar gyfer ein disgyblion. Ceir rhesymau cyfiawn a dilys ar adegau wrth gwrs, pan na all disgybl fynychu’r ysgol, ond mae gennym systemau yn eu lle i fonitro ac ymchwilio i absenoldebau ar draws yr ysgol. Mae’r polisi presenoldeb yn amlinellu ein hymarfer a’n trefniadau er mwyn cynnal lefel uchel o bresenoldeb.

Os yw eich plentyn yn absennol, ffoniwch 01239 831000 os gwelwch yn dda.

We Expect Parents To

Disgwyliwn i Rieni

We Expect Pupils To

Disgwyliwn y Disgyblion

Our School Target

Ein targed ysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd hon yw 95.7%