» Canolfan Iaith
Cartref newydd, sialens newydd! Dysgwch Gymraeg!
Lleolir Canolfan Iaith Bro Preseli yn Ysgol Bro Preseli. Yma, mewn awyrgylch gyfeillgar, mae plant o oedran a gallu tebyg, o lawer o ysgolion cynradd lleol, yn dod at ei gilydd ar gyfer cyrsiau Cymraeg ‘dechreuwyr’.
Os yw eich plentyn/plant rhwng 7 ac 11 oed, ac newydd ddechrau ysgol yn ardal y Preseli – byddant wedi sylwi bod llawer o weithgareddau yn ystod diwrnod ysgol yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ledled Cymru, mae addysgu’r Gymraeg mewn ysgolion yn orfodol rhwng 5 ac 16 oed. Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd yr iaith fel rhan annatod o ddiwylliant, treftadaeth a bywyd bob dydd Cymru.
Mae darpariaeth a chymorth ar gyfer plant sy’n newydd i’r Gymraeg yn y Ganolfan Iaith wedi’u bwriadu ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 2, ac yn dechrau cyn gynted â phosib ar ôl iddynt drosglwyddo i Ysgol Gymraeg.
Diben y Ganolfan Iaith yw darparu cwrs dysgu Cymraeg dwys i alluogi plant i gyrraedd lefel rhuglder y mae ei hangen i drosglwyddo i addysg mewn ysgol cyfrwng Cymraeg. Agorwyd y Ganolfan ym Mis Medi 1985, er mwyn cynorthwyo newydd ddyfodiaid di-Gymraeg yr ardal i ymgynefino gyda’r Gymraeg yn gyflym.
Cefnogir yr hwyrddyfodiad â chwrs rhan-amser sy’n para dwy flynedd.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf mae hwyrddyfodiaid yn dilyn cwrs deuddydd i hwyrddyfodiaid. Mae’r cwrs yma’n cynnwys ffocws cryf ar ddatblygu sgiliau llafaredd disgyblion gyda phatrymau iaith a geirfa sy’n seiliedig ar ymarfer yn yr ystafell ddosbarth ac iaith fynegiannol er mwyn rhoi cymorth i integreiddio disgyblion yn naturiol i mewn i’w hysgolion. Mae’r addysgu’n thematig mewn grŵp bach o ddim mwy nag 14 ac mae staff yn defnyddio ystod eang o ddulliau addysgu i gefnogi datblygiad sgiliau llafaredd, darllen ac ysgrifennu disgyblion.
Yn ystod yr ail flwyddyn mae hwyrddyfodiaid yn dilyn cwrs dilyniant undydd. Mae’r cwrs yma’n adeiladu ar y flwyddyn gyntaf gan barhau i ddatblygu sgiliau llafaredd, darllen ac ysgrifennu gan ddefnyddio ystod o ddulliau addysgu o fewn ymagwedd thematig.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn, mae staff y Ganolfan Iaith yn ymweld ag ysgolion yr hwyrddyfodiaid ar sail ailgymorth pan fo angen.
Mae staff y Ganolfan Iaith yn cyfathrebu’n rheolaidd gydag ysgolion yr hwyrddyfodiaid a’u rhieni i drafod cynnydd yr hwyrddyfodiaid.
Hyd yn oed os nad ydych yn siarad Cymraeg, y newyddion da yw – nid yw’n anodd i’ch plentyn ddod yn ddwyieithog.
Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi gyflwyno’ch teulu cyfan i’r iaith
Ymunwch â grŵp mamau a phlant Cymraeg yn yr ardal – does dim rhaid i chi allu siarad Cymraeg ond bydd eich plentyn yn clywed yr iaith ac yn dysgu caneuon a straeon Cymraeg.
Mae yna warchodwyr plant lleol a chlybiau ar ôl ysgol sy’n cynnig gweithgareddau Cymraeg.
Gwyliwch rai o’r ystod eang o raglenni teledu Cymraeg sy’n addas i bob oed gydag is-deitlau Saesneg.
Gwrandewch ar ganeuon Cymraeg.
Mae llawer o lyfrau Cymraeg, DVD’s, Gwefannau ac Apiau ar gael i bob oed.
Cynhelir dosbarthiadau nos i oedolion yng Nghrymych a llawer o’r pentrefi cyfagos.
Mudiad gwirfoddol yw Mudiad Ysgolion Meithrin. Mae’n rhoi’r cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mudiad ieuenctid cyfrwng Cymraeg yw Urdd Gobaith Cymru . Mae’r Urdd yn trefnu gweithgareddau megis clybiau wythnosol, cystadlaethau, tripiau, mabolgampau, jamborïau, eisteddfodau a llawer mwy i’w haelodau.
Mae Menter Iaith Sir Benfro yn cynnig cymorth i gymunedau gynyddu a datblygu eu defnydd o’r Gymraeg.