» Pwyllgor Rhieni Gwarcheidwaid
Hoffem eich annog i ymwneud â Phwyllgor Rhieni, Gwarcheidwaid a Ffrindiau Ysgol Bro Preseli ac ymuno â ni i gefnogi’r ysgol.
Bob blwyddyn mae’r criw bach hwn o rieni, gwarcheidwaid a staff yn trefnu nifer o ddigwyddiadau gwahanol gan gynnwys y Ffair Nadolig, boreau coffi, twrnameintiau golff ynghyd â llawer o weithgareddau codi arian eraill.
Mae’r arian a godir yn cael ei ddosbarthu rhwng y gwahanol adrannau o fewn yr ysgol a’i ddefnyddio i brynu offer ac adnoddau i gyfoethogi addysg ein plant.
Os gallwch chi helpu mewn unrhyw ffordd dewch i’r cyfarfod nesaf neu cysylltwch â’r ysgol. Dyma gyfle gwych i chi gwrdd gyda rhieni, gwarcheidwaid eraill a chydweithio gyda staff yr ysgol i ddarparu’r profiad gorau i’n plant. Croeso cynnes i bawb.