» Polisi Iaith
Nod yr ysgol yw sicrhau bod eu disgyblion yn rhugl yn y ddwy iaith – Cymraeg a Saesneg – ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Ysgol Categori 2A Dwyieithog yw Ysgol Bro Preseli.
Y disgrifiad o gategori 2A yw ‘Addysgir o leiaf 80% o’r pynciau (heblaw Saesneg a Chymraeg) trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn unig i bob disgybl’.
Rydym yn cynnig pob pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg a cheir dewis o gyfrwng iaith sef Cymraeg neu Saesneg ar gyfer Gwyddoniaeth i ddisgyblion uwchradd.
Byddwn yn trafod yn ofalus gyda chi pa gyfrwng iaith fydd fwyaf addas i’ch plentyn.
Disgwylir i’r disgyblion siarad ac ysgrifennu trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob pwnc oni bai eu bod yn astudio Gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Saesneg yn yr uwchradd.
Cymraeg yw iaith weinyddol yr ysgol o ran cyhoeddiadau mewnol, gwybodaeth fewnol, gwasanaethau ysgol ac ati.
Hefyd cynhelir gweithgareddau allgyrsiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal, disgwylir i ddisgyblion i siarad Cymraeg â’i gilydd tu allan i’r dosbarth. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod bob plentyn yn rhugl yn y Gymraeg erbyn iddynt adael yr ysgol.
Bydd pob gohebiaeth allanol a dderbyniwch oddi wrth yr ysgol yn y ddwy iaith – y Gymraeg a’r Saesneg.
Danfonir adroddiadau ar ddisgyblion i rieni trwy gyfrwng y Gymraeg oni fydd y rhieni a gwarcheidwaid yn gwneud cais i’w derbyn trwy gyfrwng y Saesneg.
Disgwylir i rieni a gwarcheidwaid sy’n danfon eu plant i Ysgol Bro Preseli fod yn frwd i’w plant gael eu dysgu yn y Gymraeg. Mae agwedd bositif tuag at ddwyieithrwydd yn hanfodol bwysig.